A oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda fi? Ydy fy ymchwil yn swnio'n gyffroes a diddorol? Ydych chi'n meddwl am ymgeisio am ymuno â'r adran a fy nghael i fel cynghorwr? Os ydych chi, rydych chi wedi dod i'r lle cywir!
Dechreuwn ni â'r hyn yr ydw i'n ei wneud: Mae'r rhan fwyaf o'm ymchwil yn seiliedig ar arbrofion lle mae cyfranogion yn cyfathrebu mewn ieithoedd artiffisial, neu yn gorfod adeiladu “lab-ieithoedd” newydd allan o ddim. Y nod ydy i geisio dysgu am newidiad ac amrywiad mewn ieithoedd naturiol gan edrych ar rywbeth yn y lab sydd yn debyg i ieithoedd naturiol ond yn llai ac yn haws eu trin a photsian â nhw. Os ydych chi'n ymddiddori mewn newidiad ac amrywiad iaith, ond heb unrhyw ddiddordeb mewn dulliau arbrofol, mae'n debyg nad fi ydy'r cynghorydd gorau i chi! Ydych chi felly yn teimlo atyniad at ddulliau arbrofol? Does dim rhaid eich bod wedi cael llawer o brofiad yn eu cynnal nhw, ond fe ddylech chi o leia fod â diddordeb mewn dysgu sut i'w cynnal nhw.
Yn ail, ydych chi'n gwybod beth ydy esblygiad diwylliannol? A dweud y gwir, mae'n iawn os mai na ydy'r ateb. (Dim ond ychydig o bobl sydd yn gyfarwydd â'r term.) Ond weithiau mae pobl yn cael eu camarwain gan y term; ac mae'n troi allan eu bod nhw'n meddwl eu bod nhw eisiau gweithio gyda fi ar sail hynny, er nad ydyn nhw ddim mewn gwirionedd. Y ffordd hawsaf, efallai, o ddiffinio esblygiad diwylliannol ydy trwy gyferbyniad ag esblygiad biolegol, sydd yn ymdrin â newidiad mewn amleddau genynau dros genedlaethau. Newidiad mewn dosbarthiad endidau diwylliannol dros amser ydy esblygiad diwylliannol yn y bôn; yng nghyd-destun iaith, gellir meddwl am ffonemau, morffemau, geiriau, cystrawennau brawddeg, ayyb. Dyna beth sydd wrth wraidd fy mhrif ddiddordebau: newidiad ac amrywiad Iaith (trwy lens esblygiadol), yn ogystal â chwestiynau am darddiad Iaith a pham mae Iaith yn gweithio fel y mae. Ydy hyn yn wir ohonych chithau hefyd?
Yn drydydd, gan gymryd eich bod wedi ticio'r ddau flwch cyntaf: A ydych chi o ddifrif yn ymddiddori mewn Iaith? Os ydych chi'n meddwl am anfon ymgais i Adran Ieithyddiaeth Penn (y ffordd hawsaf o gael eich cynghori gennyf): Ydych chi eisiau treilio dwy flynedd yn cymryd cwrsiau ar bethau fel cystrawen a ffonoleg, a threulio sawl flwyddyn arall ymhlith pobl sydd wir yn ymddiddori yn y pethau hyn?
Yn bedwerydd, mae un neu ddau o bethau yr ydw i'n derbyn ymholiadau amdanynt yn aml ond nad oes gennyf ddiddordeb cryf mewn gweithio arnynt. Er enghraifft, nid oes llawer o ddiddordeb gennyf mewn gweithio ar ddamcaniaeth perthynoledd ieithyddol (y ddamcaniaeth bod yr iaith y mae person yn ei siarad yn cael dylanwad arwyddocaol ar eu canfyddiad o'r byd). Nid oes gennyf chwaith lawer o ddiddordeb mewn gweithio ar memes ar y rhyngrwyd (oni bai fod cysylltiad arbennig o ddiddorol yn bodoli ag esblygiad iaith).
Yn y gwraidd gellir crynhoi'r pethau hyn i gyd fel y canlyn: Ydych chi â diddordeb gwirioneddol mewn astudio newid ac amrywiad iaith drwy ddefnyddio dulliau arbrofol diddorol?
Os ydych chi'n ateb yn frwdfrydig i'r cwestiwn hwn, byddwn yn falch iawn o glywed gennych! Os byddwch yn cynnwys y cyfrinair “pengwin” yn eich e-bost, byddaf yn gwybod eich bod wedi darllen y dudalen hon yn fanwl.