Yr wyf yn athro cyswllt yn adran Ieithyddiaeth Prifysgol Pennsylvania ac yn aelod o Glwstwr Esblygiad y brifysgol a Grŵp Ôl-raddedig yr adran Seicoleg. Myfi hefyd yw sylfaenydd a chyfarwyddydd Lab Esblygiad Diwylliannol Iaith a sylfaenydd a chyd-gyfarwyddydd Grŵp Gwaith Esblygiad Diwylliannol a Chymdeithasol Prifysgol Pennsylvania.
Yn y rhan fwyaf o'm ymchwil cyflawnaf arbrofion lle mae'r cyfranogion yn cyfathrebu mewn ieithoedd artiffisial, neu yn gorfod adeiladu ieithoedd newydd allan o ddim. Mae'r arbrofion hyn yn helpu taflu goleuni ar rôl pwysau cymdeithasol a chyfathrebol ym mhroses tarddiad ac esblygiad iaith (ac, yn wir, systemau cyfathrebu eraill).
Yn gyffredinol ymddiddoraf yn y rhan fwyaf o bynciau sydd yn berthnasol i esblygiad iaith a newidiad iaith, ac i esblygiad diwylliannol yn ehangach. Cewch ddarllen mwy am fy ymchwil cyfredol ar wefan fy lab. Mae rhestr o gyhoeddiadau (y rhan fwyaf ohonynt yn lawrlwythadwy) ar gael yma, ac mae rhestr o gyflwyniadau (diweddar ac ar y gweill) ar gael yma. Cewch olwg ar fy CV fan hyn.
Os ydych chi'n meddwl eich bod efallai â diddordeb mewn gweithio gyda fi fel myfyriwr ôl-raddedig, darllenwch hyn yn gyntaf!